Hafan * Home

Cyfansoddiad * Constitution

Enwebiadau * Nominations

Aelodau * Members

Cofnodion * Minutes

Oriel * Gallery

Cysylltiadau * Links

Pobl Gyswllt * Contacts

Deunyddiau * Materials

Prifysgol Cymru, Bangor

Academi Cymrodyr Dysgu

Nodiadau cyfarfod 27 Mawrth 2006

 

Presennol: C Cahalan (Cadeirydd), T Corns, W Thomas, D Tomos, J Fazey, D Fazey, C Hughes, M Erjavec, S Sambrook, I Ap Dewi.

Ymddiheuriadau: Ll Jones, J Frost, H Omed, J Ruddall, W Lewis, S Assinder, T Moore, J Pritchard.

 

1. Nodiadau cyfarfod 21 Tachwedd 2005

Derbyniwyd nodiadau cyfarfod 21 Tachwedd 2005 fel cofnod cywir gydag un newid - Dr. yw teitl M Erjavec.

 

2. Materion yn codi

i) Adroddwyd fod C Cahalan wedi cytuno i wasanaethu fel Cadeirydd ar sail dros dro. Enwebwyd J Frost fel cynrychiolydd yr Academi ar y Grwp Tasg Addysgu a Dysgu. Cytunwyd y gall S Sambrook gynrychioli'r Academi yn y Grwp Tasg Addysgu a Dysgu pe na fyddai J Frost yn gallu bod yn bresennol.

ii) Cytunwyd y dylid dosbarthu fersiwn diwygiedig o gyfansoddiad yr Academi i aelodau.

iii) Yn dilyn trafodaeth, cytunwyd y dylid creu gwefan ar gyfer yr Academi a chytunodd M Erjavec i gyd-drefnu hyn. Awgrymwyd y dylai'r wefan gynnwys cyfansoddiad yr Academi, rhestr o'r Cymrodyr Dysgu, ffurflenni enwebu ar gyfer Cymrodyr Dysgu ac Aelodau Cyswllt, cysylltiadau i wefan yr Academi Addysg Uwch a nodiadau o gyfarfodydd. Cytunwyd hefyd i sefydlu fforwm trafod wedi'i seilio ar restr bostio, gyda chrynodebau o drywydd trafodaethau ar y wefan.

 

3. Canllawiau ar gyfer enwebu Aelodau Cyswllt

Ystyriwyd canllawiau drafft ac awgrymwyd nifer o newidiadau. Cytunwyd y dylid dosbarthu'r canllawiau diwygiedig i aelodau am sylwadau.

Cytunwyd y dylid cyflwyno Aelodaeth Gyswllt mewn digwyddiad i'w drefnu gan yr Academi, yn hydref 2006 o bosibl. Awgrymwyd hefyd y dylai adrannau gydnabod y cyfryw anrhydedd fel rhan o unrhyw gyfarfod priodol.

 

4. Cyflwyniad gan S Sambrook

Rhoddodd S Sambrook gyflwyniad a oedd yn nodi sut yr oedd wedi mabwysiadu dulliau arloesol o ymdrin ag addysgu. Roedd hyn yn cynnwys addysgu mewn tîm, rhyngweithio gyda myfyrwyr a rhyngddynt, asesu gan gydweithwyr a chyflwyniadau grwp. Pwysleisiodd bwysigrwydd annog myfyrwyr i gymryd rhan a swyddogaeth y darlithydd fel 'hwyluswr' yn hytrach na 'chludwr' gwybodaeth yn unig.

Trafodwyd problemau yn gysylltiedig â chael cymeradwyaeth foesegol ar gyfer gwaith wedi'i seilio ar brojectau.

5. Unrhyw fater arall

i) Cytunwyd y dylai C Cahalan ac I Ap Dewi drafod dyddiad y cyfarfod nesaf. Awgrymwyd y dylid ystyried rhaglen yr Academi yn fanwl i gynllunio ei thestunau trafod.

ii) Mewn ymateb i gwestiwn gan D Tomos, ystyriwyd y cysylltiadau rhwng yr Academi a phwyllgorau canolog ac adrannol.

 

 

Dyluniad * Design:

Mihela * 28 / 06 / 06.