Hafan * Home

Cyfansoddiad * Constitution

Enwebiadau * Nominations

Aelodau * Members

Cofnodion * Minutes

Oriel * Gallery

Cysylltiadau * Links

Pobl Gyswllt * Contacts

Deunyddiau * Materials

PRIFYSGOL CYMRU, BANGOR

CYMRODORIAETHAU DYSGU: NODIADAU CANLLAW

 

Amcanion Cymrodoriaethau Dysgu

o Cydnabod pwysigrwydd dysgu da a gofal bugeiliol dros fyfyrwyr

o Tynnu sylw at ymrwymiad y Brifysgol i ragoriaeth mewn dysgu a gofal bugeiliol.

Nifer i'w gwobrwyo

Nid oes cyfyngiadau ar nifer y cymrodoriaethau y gellir eu rhoi'n flynyddol.

Meini prawf

o Dyfernir Cymrodoriaeth i unigolyn sydd wedi gwneud cyfraniad eithriadol i ddysgu a gofal bugeiliol. Ni ddyfernir cymrodoriaethau fel mater o drefn. Disgwylir y bydd y rhai a enwebir wedi dangos rhagoriaeth mewn dysgu ac mewn gofal bugeiliol.

o Dylai'r gweithgareddau a nodir mewn unrhyw enwebiad fod wedi digwydd fel rheol yn ystod y cyfnod 3 blynedd cyn cyflwyno'r enwebiad.

o Gellir dyfarnu'r gwobrau am ddysgu yn y Brifysgol ar unrhyw lefel.

Cymhwyster

Gellir enwebu unrhyw aelod staff sy'n cyfrannau at addysgu a dysgu mewn unrhyw Adran (ac eithrio Pennaeth yr Adran) i dderbyn Cymrodoriaeth Ddysgu.

Enwebu

Fel rheol bydd Pennaeth pob Adran/Ysgol academaidd yn enwebu un o'r adran honno. Gellir enwebu mwy nag un o Ysgol/Adran os oes ymgeiswyr sydd yr un mor gryf â'i gilydd. Dylai aelodau staff eraill neu fyfyrwyr sy'n dymuno enwebu rhywun drafod hyn â Phennaeth yr Ysgol/Adran dan sylw. Dylai Pennaeth yr Ysgol/Adran ofyn caniatâd y sawl a enwebir cyn ei (h)enwebu.

Mae'n rhaid i bob enwebiad gan Bennaeth Adran gynnwys:

o Darn 300 gair gan Bennaeth yr Adran i gefnogi'r enwebiad (Ffurflen TF1)

o Sylwadau byr (100 gair) ar bob un o'r canlynol (Ffurflen TG2):

o Ansawdd cynllun cwrs (amcanion cwrs, dulliau dysgu ac asesu, deunyddiau dysgu megis taflenni, arloesi mewn addysgu a dysgu)

o Ansawdd y cyflwyno (gyda thystiolaeth gan gyfoedion a myfyrwyr ar berfformiad mewn darlithoedd, gwaith ymarferol, gwaith maes a thiwtorialau)

o Maint cysylltiad â dysgu a chefnogi myfyrwyr

o Tystiolaeth o ymwneud â lles myfyrwyr a gweithgareddau myfyrwyr yn gyffredinol.

o Mae'n rhaid cyflwyno canlyniadau holiaduron gwerthuso cyrsiau, unrhyw ffurf arall o adborth ysgrifenedig gan fyfyrwyr, neu unrhyw dystiolaeth gefnogol arall.

o Lle mae enwebiad wedi dod gan fyfyrwyr, mae'n rhaid cyflwyno eu henwebiad hwy hefyd (Ffurflen TF3)

Dewis

Ystyrir enwebiadau gan Banel Cymrodoriaethau Dysgu, sy'n adrodd i'r Grwp Tasg Addysgu a Dysgu. Bydd y Panel yn cynnwys y Dirprwy-Is-Ganghellor (Addysgu a Dysgu), Cadeirydd yr Is-Grwp SA, un aelod o'r Grwp Tasg Addysgu a Dysgu, 2 aelod o'r Coleg Cymrodyr Dysgu

Y Wobr

Cyflwynir y Gymrodoriaeth yn ystod y seremoni raddio briodol, ym mhresenoldeb y myfyrwyr sydd wedi bod mewn cysylltiad â'r Cymrawd (ac a fydd wedi cymryd rhan yn yr enwebiad). Bydd y derbynnydd yn cael y teitl ffurfiol Cymrawd Dysgu Prifysgol Cymru Bangor.

Gyda phob Cymrodoriaeth ceir cydnabyddiaeth ariannol unwaith yn unig o £1000 (treth i'w dynnu o hyn)

 

Ioan Ap Dewi

22 Awst 2005

 

 

Dyluniad * Design:

Mihela * 28 / 06 / 06.